Dinasoedd mwya'r byd

Nid oes un ateb syml i'r cwestiwn o benderfynu ar ddinas fwyaf y byd neu ddinasoedd mwyaf y byd. Mae'r ateb yn dibynnu ar ba ddifiniad o "ddinas" a ddefnyddir a beth a olygir gan "faint" y ddinas, ac yna sut y caiff y diffiniadau hyn eu defnyddio. Caiff hyn ei gymhlethu yn bellach gan faterion gwleidyddol, diwylliannol, cymdeithasol, weithiau'n ddadleuol neu a gysylltir ag anghydfod. Mae unrhyw ddadl yn y maes hwn yn debygol o fod yn agored i duedd neu gamdrin ffigyrau, gan fod pobl yn tueddu i ffafrio diffiniadau sydd yn ategu eu dinasoedd mewn rhyw ffordd.

Mae "maint" dinas fel arfer yn cyfeirio at ei phoblogaeth, ond gall hefyd gyfeirio at ei arwynebedd.

Gall ffiniau dinas gael eu diffinio mewn sawl ffordd:

Morffolegol
Caiff "dinas" ei diffinio fel ardal drefol gyda chyffiniau materol, h.y. heb unrhyw ystyriaeth at ffiniau swyddogol/tiriogaethol neu unrhyw fath arall o ffin. Caiff y "ffin" felly ei chreu trwy ddadansoddi dwysedd trefol, e,e, dwysedd poblogaeth neu ddwysedd adeiladau a diffinio rheolau cyson (e.e. gall bylchau rhwng adeiladau ddim ymestyn tros 200 medr). Yn aml, defnyddir mapiau a delweddau lloerenni neu ffotograffiaeth awyrol i wneud hyn.
Gweithredol
Caiff "dinas" ei diffinio trwy weithredoedd y boblogaeth demograffeg, e.e. gan ardal metropolitan, y farchnad lafur. Yn aml caiff diffiniadau o'r fath eu seilio ar ffigyrau cymudo rhwng y cartref a'r gweithle.
Gweinyddol
Caiff "dinas" ei diffinio yn fanwl gan ffiniau llywodraethol.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search